![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
![]() | |
| Tegeingl - Gŵyl y werin gudd Cynhaliwyd digwyddiad newydd sbon yn Yr Wyddgrug ar 15fed-16eg Awst, 2008. Adlewyrchodd Tegeingl y gelfyddyd a’r diwylliant gwerin cyfoethog sydd wedi datblygu a goroesi yma yn ardal y Decangli ar hyd y canrifoedd. Mae lleoliad Tegeingl/Sir y Fflint yma ar y ffin gyda’r llanw a thrai o ddiwylliannau yn golygu bod cymysgedd cyfoethog ac unigryw iawn o hanes, treftadaeth a chelfyddyd yn yr ardal. Roedd yr ŵyl yn ddrws agored i'r gorau o ddiwylliant ac adloniant Cymraeg a Chymreig, a llwyfan yng Nghymru i artistiaid o wledydd eraill a chymysgedd o ganeuon, alawon, dawnsfeydd a chwedlau gwerin traddodiadol a chyfoes ein hardal a'n gwlad, ochr yn ochr â'u bath o wledydd eraill. Cliciwch YMA i ymweld â'r grwp Tegeingl ar FACEBOOK Cliciwch YMA i ymweld â'r dudalen Gŵyl Tegeingl ar FACEBOOK Cliciwch ar flwyddyn i weld mwy:- 2010 neu ffoniwch 0791 9177373 Cliciwch yma i dderbyn ffurflenni cais ar gyfer cystadleuwyr, stiwardiaid a stondinwyr. FFURFLEN ARCHEBU TOCYNNAU Neu gliciwch yma i brynu tocyn ar lein o'r wefan WeGotTickets 2009 Cynhaliwyd cyfres digwyddiadau; cliciwch fa'ma am fanylion. 2008 Cliciwch ar ddolen am fanylion yr ŵyl 2008, gan gynnwys oriel a dolennau i berfformiadau gan rhai o'r artistiaid. | |||||
| ||||||